Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 20 Ionawr
2016
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3524
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gwnaeth y Llywydd ddatganiad am ymddygiad Aelodau yn y Siambr a phwysleisiodd yr angen am urddas a threfn yn y cyfarfodydd, gan gynnwys parchu awdurdod y Cadeirydd.
Dechreuodd yr eitem am 13.31
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1 a 2 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd y 4 cwestiwn.
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
Dechreuodd yr eitem am 14.25
NDM5922 David Melding (Canol De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Deddfu yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Hydref 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.10
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5920 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canfyddiadau'r adroddiad interim ar yr Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru, sy'n datgan nad yw'r system bresennol yn gynaliadwy, gan adleisio galwadau gan Brifysgolion Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac Undeb y Colegau a Phrifysgolion;
2. Yn cydnabod, fel y nodwyd yn yr adroddiad interim, fod angen i Lywodraeth Cymru "ailystyried y polisi grant ffioedd dysgu" yng Nghymru; a
3. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ailfodelu cyllid addysg uwch yng Nghymru, gan weithredu polisi mwy cynaliadwy a chynnig mwy o flaenoriaeth i system gynyddol o gefnogi costau byw.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi adroddiad polisi Democratiaid Rhyddfrydol Cymru o 2013, 'Fairness and Freedom in Higher Education', sy'n galw am grant cymorth byw i fyfyrwyr, er mwyn symud ffocws cymorth y llywodraeth o ryddhad o ddyledion ffioedd dysgu i gefnogaeth ar gyfer costau byw, fel ffordd decach a mwy effeithiol o sicrhau nad yw cyllid yn rhwystr i addysg uwch.Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
13 |
35 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi adroddiad polisi Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, 'Punt yn Eich Poced', a ganfu fod 58 y cant o fyfyrwyr yn poeni'n rheolaidd am beidio â chael digon o arian i gwrdd â'u costau byw sylfaenol fel rhent neu filiau cyfleustodau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ar ddiwedd pwynt 3, mewnosoder:
'fel drwy gyflwyno grant cymorth byw i fyfyrwyr.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
13 |
35 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn condemnio'r toriad difrifol i gyllid Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-2017, sy'n dod o ganlyniad uniongyrchol i bolisi ffioedd cyfredol Llywodraeth Cymru. Yn credu bod hyn yn debygol o arwain at doriadau niweidiol mewn cymorth i fyfyrwyr rhan-amser, ymchwil, pynciau cost uchel a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5920 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canfyddiadau'r adroddiad interim ar yr Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru, sy'n datgan nad yw'r system bresennol yn gynaliadwy, gan adleisio galwadau gan Brifysgolion Cymru, Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac Undeb y Colegau a Phrifysgolion;
2. Yn nodi adroddiad polisi Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, 'Punt yn Eich Poced', a ganfu fod 58 y cant o fyfyrwyr yn poeni'n rheolaidd am beidio â chael digon o arian i gwrdd â'u costau byw sylfaenol fel rhent neu filiau cyfleustodau;
3. Yn cydnabod, fel y nodwyd yn yr adroddiad interim, fod angen i Lywodraeth Cymru "ailystyried y polisi grant ffioedd dysgu" yng Nghymru; a
4. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ailfodelu cyllid addysg uwch yng Nghymru, gan weithredu polisi mwy cynaliadwy a chynnig mwy o flaenoriaeth i system gynyddol o gefnogi costau byw.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 16.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5923 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod cymunedau ledled Cymru wedi cael eu difrodi gan lifogydd dros yr wythnosau diwethaf ac yn talu teyrnged i waith pob un o'r rhai sydd wedi rhoi cefnogaeth hanfodol i'r cymunedau hynny;
2. Yn cydnabod pwysigrwydd gwaith ymgysylltu trylwyr, cydweithredol â rhanddeiliaid ledled Cymru i ddatblygu strategaeth atal llifogydd gadarn; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pendant ar unwaith i gefnogi cymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt, gan gynnwys:
a) archwilio hyfywedd darparu rhyddhad ardrethi i'r busnesau yr effeithiwyd arnynt;
b) adolygu sut y mae'r Asiantaeth Cefnffyrdd yn ymateb i amodau tywydd gwael, gan asesu yn enwedig sut y rheolir yr A55 mewn perthynas â llifogydd;
c) darparu rhyddid ychwanegol i ffermwyr a thirfeddianwyr ymgymryd ag unrhyw waith angenrheidiol i glirio ffosydd, draeniau a sianeli amaethyddol; a
d) asesu sut y gall y rhaglen datblygu gwledig gefnogi cynlluniau atal llifogydd yn well i gymunedau yr effeithir arnynt gan lifogydd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i wneud cais am gyllid gydsefyll yr UE ar gyfer rhyddhad llifogydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
13 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i dorri cymorth ar gyfer prosiectau ynni glân, sy'n bygwth ein gallu i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac yn cynyddu'r risg o amodau tywydd eithafol a llifogydd yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
13 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ar ddechrau is-bwynt 3c), mewnosoder:
'adolygu'r dystiolaeth ar gyfer'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
26 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
Hyrwyddo cynlluniau i liniaru ar y perygl o lifogydd drwy reoli tir mewn modd arloesol, gan gynnwys drwy blannu coed a llystyfiant i arafu dŵr ffo, adfer gwlyptiroedd a chreu cronfeydd llifogydd diogel.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r canllawiau cynllunio o ran datblygu ar dir sy'n dueddol i gael llifogydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy o ddefnydd o'r amgylchedd naturiol wrth reoli risg llifogydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5923 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod cymunedau ledled Cymru wedi cael eu difrodi gan lifogydd dros yr wythnosau diwethaf ac yn talu teyrnged i waith pob un o'r rhai sydd wedi rhoi cefnogaeth hanfodol i'r cymunedau hynny;
2. Yn cydnabod pwysigrwydd gwaith ymgysylltu trylwyr, cydweithredol â rhanddeiliaid ledled Cymru i ddatblygu strategaeth atal llifogydd gadarn; a
3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i wneud cais am gyllid gydsefyll yr UE ar gyfer rhyddhad llifogydd.
4. Yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i dorri cymorth ar gyfer prosiectau ynni glân, sy'n bygwth ein gallu i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac yn cynyddu'r risg o amodau tywydd eithafol a llifogydd yn y dyfodol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pendant ar unwaith i gefnogi cymunedau y mae llifogydd wedi effeithio arnynt, gan gynnwys:
a) archwilio hyfywedd darparu rhyddhad ardrethi i'r busnesau yr effeithiwyd arnynt;
b) adolygu sut y mae'r Asiantaeth Cefnffyrdd yn ymateb i amodau tywydd gwael, gan asesu yn enwedig sut y rheolir yr A55 mewn perthynas â llifogydd;
c) adolygu'r dystiolaeth ar gyfer darparu rhyddid ychwanegol i ffermwyr a thirfeddianwyr ymgymryd ag unrhyw waith angenrheidiol i glirio ffosydd, draeniau a sianeli amaethyddol; a
d) asesu sut y gall y rhaglen datblygu gwledig gefnogi cynlluniau atal llifogydd yn well i gymunedau yr effeithir arnynt gan lifogydd.
e) hyrwyddo cynlluniau i liniaru ar y perygl o lifogydd drwy reoli tir mewn modd arloesol, gan gynnwys drwy blannu coed a llystyfiant i arafu dŵr ffo, adfer gwlyptiroedd a chreu cronfeydd llifogydd diogel.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r canllawiau cynllunio o ran datblygu ar dir sy'n dueddol i gael llifogydd.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy o ddefnydd o'r amgylchedd naturiol wrth reoli risg llifogydd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
13 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.09
Dechreuodd yr eitem am 17.14
NDM5924 Lynne Neagle (Torfaen)
Strategaeth genedlaethol ar ddementia i Gymru - ymateb i her iechyd ein hamser.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.44
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2016